22 “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo.
23 Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti!
24 “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.
25 “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?
26 Meddyliwch am adar er enghraifft: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw.
27 Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach trwy boeni!
28 “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu.