6 Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld e. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
7 A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir.
8 Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
9 “Dyma sut dylech chi weddïo:‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
10 Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg diddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
11 Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
12 Maddau i ni am bob dyled i tiyn union fel dŷn ni'n maddaui'r rhai sydd mewn dyled i ni.