1 Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd.
2 Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
3 Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
4 A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”