17 Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”
18 Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.
19 Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”
20 Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
21 Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
22 Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”
23 Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl.