24 Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!
25 Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”
26 “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
27 Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”
28 Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.
29 Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?”
30 Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw,