6 Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.”
7 Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre.
8 Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn.
9 Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl.
10 Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛, i'r parti hefyd.
11 Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
12 Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.