Lefiticus 10 BCN

Marw Nadab ac Abihu

1 Cymerodd Nadab ac Abihu, meibion Aaron, bob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arno; yr oeddent felly'n cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD dân estron nad oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.

2 Daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD a'u hysu, a buont farw gerbron yr ARGLWYDD.

3 A dywedodd Moses wrth Aaron, “Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD:“ ‘Ymysg y rhai sy'n dynesu ataf fe'm sancteiddir,a cherbron yr holl bobl fe'm gogoneddir.’ ”Yr oedd Aaron yn fud.

4 Galwodd Moses ar Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, “Dewch yma, ac ewch â'ch cefndryd allan o'r gwersyll rhag iddynt fod o flaen y cysegr.”

5 Daethant hwythau a mynd â hwy yn eu gwisgoedd y tu allan i'r gwersyll, fel y gorchmynnodd Moses.

6 Yna dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch â noethi eich pennau na rhwygo eich dillad, rhag ichwi farw, ac i Dduw fod yn ddig wrth yr holl gynulleidfa; ond bydded i'ch pobl, sef holl dŷ Israel, alaru am y rhai a losgodd yr ARGLWYDD â thân.

7 Peidiwch â gadael drws pabell y cyfarfod, neu byddwch farw, oherwydd y mae olew eneinio yr ARGLWYDD arnoch.” Gwnaethant fel y dywedodd Moses.

Deddfau'r Offeiriaid

8 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron,

9 “Nid wyt ti na'th feibion i yfed gwin na diod gadarn pan fyddwch yn dod i babell y cyfarfod, rhag ichwi farw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros eich cenedlaethau,

10 er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, a rhwng aflan a glân,

11 a dysgu i bobl Israel yr holl ddeddfau a roddodd yr ARGLWYDD iddynt trwy Moses.”

12 Dywedodd Moses wrth Aaron ac wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd, “Cymerwch y bwydoffrwm sy'n weddill o'r offrymau trwy dân a wnaed i'r ARGLWYDD, a'i fwyta heb furum wrth ymyl yr allor, oherwydd y mae'n gwbl sanctaidd.

13 Bwytewch ef mewn lle sanctaidd, gan mai dyna dy gyfran di a chyfran dy feibion o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, oherwydd fel hyn y gorchmynnais.

14 Yr wyt ti, dy feibion a'th ferched i fwyta brest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad mewn lle dihalog, oherwydd fe'u rhoddwyd i ti a'th blant yn gyfran o heddoffrymau pobl Israel.

15 Deuer â chlun y cyfraniad a brest yr offrwm cyhwfan, gyda'r rhannau bras o'r offrymau trwy dân, i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan. Bydd hyn yn gyfran reolaidd i ti a'th blant, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”

16 Pan ymholodd Moses am fwch yr aberth dros bechod, cafodd ei fod wedi ei losgi; a bu'n ddig iawn wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd i Aaron. Gofynnodd,

17 “Pam na fu ichwi fwyta'r aberth dros bechod yng nghyffiniau'r cysegr, gan ei fod yn gwbl sanctaidd ac iddo gael ei roi i chwi i ddwyn camwedd y gynulleidfa trwy wneud cymod drostynt gerbron yr ARGLWYDD?

18 Wele, ni ddygwyd ei waed i mewn i'r cysegr mewnol; yn sicr dylech fod wedi bwyta'r bwch yn y cysegr, fel y gorchmynnais.”

19 Dywedodd Aaron wrth Moses, “Y maent heddiw wedi cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD eu haberth dros bechod a'u poethoffrwm, ac y mae'r fath bethau wedi digwydd i mi! A fyddai'n dderbyniol gan yr ARGLWYDD pe bawn wedi bwyta'r aberth dros bechod heddiw?”

20 Pan glywodd Moses hyn, bu'n fodlon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27