Lefiticus 27 BCN

Addunedau i'r ARGLWYDD

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Llefara wrth bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Os bydd rhywun yn gwneud adduned arbennig i roi cyfwerth am berson i'r ARGLWYDD,

3 bydd gwerth gwryw rhwng ugain a thrigain mlwydd oed yn hanner can sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr.

4 Os benyw ydyw, bydd ei gwerth yn ddeg sicl ar hugain.

5 Os rhywun rhwng pump ac ugain mlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn ugain sicl, a benyw yn ddeg sicl.

6 Os plentyn rhwng mis a phumlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn bum sicl o arian a benyw yn dair sicl o arian.

7 Os rhywun trigain mlwydd oed neu drosodd ydyw, bydd gwerth gwryw yn bymtheg sicl a benyw yn ddeg sicl.

8 Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod â'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn ôl yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.

9 “ ‘Os anifail sy'n dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD yw'r adduned, bydd y cyfan o'r anifail yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

10 Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd.

11 Os yw'r anifail yn un aflan, a heb fod yn dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD, y mae i ddod â'r anifail at yr offeiriad,

12 a bydd yntau yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; beth bynnag a benna'r offeiriad, hynny fydd ei werth.

13 Os bydd y perchennog yn dymuno rhyddhau'r anifail, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth.

14 “ ‘Os bydd rhywun yn cysegru ei dŷ yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll.

15 Os bydd rhywun sy'n cysegru ei dŷ am ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd y tŷ'n eiddo iddo.

16 “ ‘Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn ôl yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd.

17 Os bydd yn cysegru'r tir yn ystod blwyddyn y jwbili, bydd ei werth yn sefyll.

18 Ond os bydd yn ei gysegru ar ôl y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn ôl y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng.

19 Os bydd y sawl sy'n cysegru ei dir yn dymuno ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd yn eiddo iddo.

20 Os na fydd yn dymuno rhyddhau'r tir, neu os bydd wedi ei werthu i rywun arall, ni ellir byth ei ryddhau.

21 Pan ryddheir y tir ar y jwbili, bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, fel tir diofryd; bydd yn etifeddiaeth i'r offeiriad.

22 “ ‘Os bydd dyn yn cysegru i'r ARGLWYDD dir a brynodd, a heb fod yn rhan o'i etifeddiaeth,

23 bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei werth hyd flwyddyn y jwbili, a bydd y sawl sy'n ei gysegru yn rhoi ei werth y diwrnod hwnnw, a bydd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

24 Ym mlwyddyn y jwbili dychwelir y tir i'r sawl y prynwyd ef ganddo, sef yr un yr oedd y tir yn rhan o'i etifeddiaeth.

25 Y mae pob gwerth i'w bennu yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.

26 “ ‘Er hynny, nid yw neb i gysegru cyntafanedig anifail sydd eisoes yn gyntafanedig i'r ARGLWYDD; boed fuwch neu ddafad, eiddo'r ARGLWYDD ydyw.

27 Os un o'r anifeiliaid aflan ydyw, caiff ei brynu am ei werth, ac ychwanegu pumed ran ato; os na ryddheir ef, y mae i'w werthu am ei werth.

28 Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

29 Ni ellir rhyddhau neb sydd wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD, ond rhaid iddo farw.

30 “ ‘Y mae degwm unrhyw gynnyrch o'r tir, boed yn rawn o'r tir neu'n ffrwyth o'r coed, yn eiddo i'r ARGLWYDD.

31 Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato.

32 Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

33 Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.’ ”

34 Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27