Lefiticus 15 BCN

Diferlif o'r Corff

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,

2 “Dywedwch wrth bobl Israel, ‘Pan fydd gan unrhyw un ddiferlif yn rhedeg o'i gorff, y mae'n aflan.

3 Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'i aflendid o achos diferlif. Pa un bynnag a yw'n parhau i redeg o'i gorff ynteu a yw wedi ei atal, y mae'n aflendid.

4 “ ‘Y mae unrhyw wely y bu rhywun â diferlif yn gorwedd arno yn aflan, ac unrhyw beth y bu'n eistedd arno yn aflan.

5 Y mae unrhyw un a gyffyrddodd â'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

6 Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

7 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â chorff y sawl sydd â diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

8 Os bydd rhywun â diferlif arno yn poeri ar unrhyw un glân, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

9 Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan,

10 a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

11 Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd â diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn dŵr, i olchi ei ddillad, ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

12 Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn â diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi â dŵr.

13 “ ‘Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi â dŵr croyw, a bydd yn lân.

14 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad.

15 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd â diferlif.

16 “ ‘Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr.

17 Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

18 Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

19 “ ‘Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed, sef misglwyf rheolaidd ei chorff, y mae'n amhur am saith diwrnod, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hi yn aflan hyd yr hwyr.

20 Y mae unrhyw beth y mae'n gorwedd arno yn ystod ei misglwyf yn aflan, a hefyd unrhyw beth y mae'n eistedd arno.

21 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gwely i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

22 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd â'r hyn yr eistedd y wraig arno i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr;

23 boed yn wely neu'n unrhyw beth y mae'n eistedd arno, pan fydd unrhyw un yn ei gyffwrdd, bydd yn aflan hyd yr hwyr.

24 Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan.

25 “ ‘Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar ôl ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.

26 Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.

27 Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.

28 “ ‘Pan fydd yn cael ei glanhau o'i diferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd yn lân.

29 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod â hwy at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.

30 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif.

31 “ ‘Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.’ ”

32 Dyma'r gyfraith ynglŷn â diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had,

33 a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig â diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27