Lefiticus 16 BCN

Dydd y Cymod

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar ôl marwolaeth dau fab Aaron, a fu farw pan ddaethant gerbron yr ARGLWYDD,

2 a dywedodd, “Dywed wrth dy frawd Aaron nad yw ar bob adeg i ddod y tu ôl i'r llen sydd o flaen y drugareddfa uwchben yr arch yn y cysegr, rhag iddo farw; oherwydd byddaf yn ymddangos yn y cwmwl uwchben y drugareddfa.

3 Fel hyn y mae Aaron i ddod i'r cysegr: â bustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

4 Bydd yn gwisgo mantell sanctaidd o liain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff; bydd yn rhoi gwregys lliain am ei ganol a thwrban lliain am ei ben. Y mae'r rhain yn ddillad sanctaidd, a bydd yn ymolchi â dŵr cyn eu gwisgo.

5 Bydd yn cymryd oddi wrth gynulleidfa pobl Israel ddau fwch gafr yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

6 “Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth.

7 Yna bydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn dod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.

8 Bydd Aaron yn bwrw coelbrennau am y ddau fwch, un coelbren am fwch i'r ARGLWYDD, a'r llall am y bwch dihangol.

9 Bydd Aaron yn dod â'r bwch y disgynnodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac yn ei offrymu'n aberth dros bechod.

10 Ond bydd yn cyflwyno'n fyw gerbron yr ARGLWYDD y bwch y disgynnodd coelbren y bwch dihangol arno, er mwyn gwneud iawn trwy ei ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.

11 “Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth, a bydd yn lladd y bustach yn aberth dros ei bechod.

12 Bydd yn cymryd thuser yn llawn o farwor llosg oddi ar yr allor o flaen yr ARGLWYDD, a dau ddyrnaid o arogldarth peraidd wedi ei falu, ac yn mynd â hwy y tu ôl i'r llen.

13 Bydd yn rhoi'r arogldarth ar y tân o flaen yr ARGLWYDD, er mwyn i fwg yr arogldarth orchuddio'r drugareddfa uwchben y dystiolaeth, rhag iddo farw.

14 Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac yn ei daenellu â'i fys ar wyneb dwyrain y drugareddfa; bydd yn taenellu peth o'r gwaed â'i fys seithwaith o flaen y drugareddfa.

15 “Yna bydd yn lladd bwch yr aberth dros bechod y bobl ac yn dod â'i waed y tu ôl i'r llen, ac yn gwneud â'i waed fel y gwnaeth â gwaed y bustach trwy ei daenellu ar y drugareddfa ac o'i blaen.

16 Fel hyn y bydd yn gwneud cymod dros y cysegr, oherwydd aflendid pobl Israel a'u troseddau o achos eu holl bechodau; bydd yn gwneud yr un fath dros babell y cyfarfod, sydd yn eu mysg yng nghanol eu holl aflendid.

17 Ni chaiff unrhyw un fynd i mewn i babell y cyfarfod, ar ôl i Aaron fynd i mewn i wneud cymod yn y cysegr, nes iddo ddod allan, wedi iddo orffen gwneud cymod drosto'i hun, ei dylwyth a holl gynulleidfa Israel.

18 Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.

19 Bydd yn taenellu peth o'r gwaed arni â'i fys seithwaith i'w glanhau o aflendid pobl Israel, ac yn ei chysegru.

Y Bwch Dihangol

20 “Ar ôl i Aaron orffen gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, bydd yn cyflwyno'r bwch byw.

21 Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny.

22 Y mae'r bwch i ddwyn eu holl ddrygioni arno'i hun i dir unig, a bydd y dyn yn ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.

23 “Yna bydd Aaron yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, yn diosg y dillad lliain a wisgodd pan oedd yn mynd i'r cysegr, ac yn eu gadael yno.

24 Bydd yn ymolchi â dŵr mewn lle sanctaidd, ac yn gwisgo ei ddillad arferol. Wedyn bydd yn dod allan, ac yn offrymu ei boethoffrwm ei hun a phoethoffrwm y bobl, ac yn gwneud cymod drosto'i hun a thros y bobl.

25 Bydd hefyd yn llosgi ar yr allor fraster yr aberth dros bechod.

26 “Bydd y dyn sy'n gollwng y bwch dihangol yn rhydd yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi â dŵr; ac wedi hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.

27 Y mae bustach a bwch yr aberth dros bechod, y dygwyd eu gwaed i wneud cymod yn y cysegr, i'w dwyn allan o'r gwersyll; y mae eu crwyn, eu cyrff a'u gweddillion i'w llosgi yn y tân.

28 Y mae'r sawl sy'n eu llosgi i olchi ei ddillad ac ymolchi â dŵr; ar ôl hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.

Cadw Dydd y Cymod

29 “Y mae hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Ar y degfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i ymddarostwng, a pheidio â gwneud unrhyw waith, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych,

30 oherwydd ar y dydd hwn gwneir cymod drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl bechodau gerbron yr ARGLWYDD.

31 Saboth o orffwys ydyw, ac yr ydych i ymddarostwng; y mae'n ddeddf dragwyddol.

32 Yr offeiriad a eneiniwyd ac a gysegrwyd yn offeiriad yn lle ei dad fydd yn gwneud cymod; bydd yn gwisgo dillad sanctaidd o liain,

33 ac yn gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, a hefyd dros yr offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa.

34 Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau.” Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27