1 Galwodd yr ARGLWYDD ar Moses a llefaru wrtho o babell y cyfarfod a dweud:
2 “Llefara wrth bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Pan fydd unrhyw un ohonoch yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dewch ag anifail o'r gyr neu o'r praidd yn offrwm.
3 “ ‘Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod â gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD.
4 Rhodded ei law ar ben y poethoffrwm, a bydd yn dderbyniol ganddo i wneud iawn drosto.
5 Y mae i ladd y bustach ifanc o flaen yr ARGLWYDD, ac yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn dod â'r gwaed ac yn ei luchio ar bob ochr i'r allor sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6 Y mae i flingo'r poethoffrwm a'i dorri'n ddarnau.
7 Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod tân ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y tân.
8 Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
9 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10 “ ‘Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod â gwryw di-nam.
11 Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
12 Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor.
13 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau â dŵr, a bydd yr offeiriad yn dod â'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
14 “ ‘Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod â thurtur neu gyw colomen.
15 Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,
16 yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw;
17 bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.