Lefiticus 19 BCN

Amrywiol Ddeddfau

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Dywed wrth holl gynulleidfa pobl Israel, ‘Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD eich Duw, yn sanctaidd.

3 Y mae pob un ohonoch i barchu ei fam a'i dad, ac yr ydych i gadw fy Sabothau. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

4 Peidiwch â throi at eilunod na gwneud ichwi eich hunain ddelwau tawdd. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

5 “ ‘Pan fyddwch yn cyflwyno heddoffrwm i'r ARGLWYDD, offrymwch ef mewn ffordd a fydd yn dderbyniol.

6 Y mae i'w fwyta ar y diwrnod y byddwch yn ei offrymu, neu drannoeth; y mae unrhyw beth a fydd yn weddill ar y trydydd dydd i'w losgi yn y tân.

7 Os bwyteir rhywfaint ohono ar y trydydd dydd, y mae'n amhur ac ni fydd yn dderbyniol.

8 Y mae'r sawl sy'n ei fwyta yn gyfrifol am ei drosedd; oherwydd iddo halogi'r hyn sy'n sanctaidd i'r ARGLWYDD, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.

9 “ ‘Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, nid wyt i fedi at ymylon y maes na chasglu lloffion dy gynhaeaf.

10 Nid wyt i ddinoethi dy winllan yn llwyr na chasglu'r grawnwin a syrthiodd; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw.

11 “ ‘Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.

12 Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

13 “ ‘Nid wyt i wneud cam â'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn ôl hyd y bore gyflog dy weithiwr.

14 Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

15 “ ‘Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.

16 Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.

17 “ ‘Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.

18 Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.

19 “ ‘Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes â hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.

20 “ ‘Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach â gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dyweddïo i ŵr ond heb ei phrynu'n ôl na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;

21 y mae ef i ddod ag offrwm dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, sef hwrdd yr aberth dros gamwedd.

22 Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.

23 “ ‘Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r wlad ac yn plannu unrhyw goeden ffrwythau, ystyriwch ei ffrwyth yn waharddedig; bydd wedi ei wahardd ichwi am dair blynedd, ac ni chewch ei fwyta.

24 Yn y bedwaredd flwyddyn bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd, yn offrwm mawl i'r ARGLWYDD.

25 Ond yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'i ffrwyth, er mwyn iddi ffrwythloni rhagor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

26 “ ‘Nid ydych i fwyta dim gyda gwaed ynddo. Nid ydych i arfer dewiniaeth na swyngyfaredd.

27 Nid ydych i dorri'r gwallt ar ochr eich pennau, na thorri ymylon eich barf.

28 Nid ydych i wneud toriadau i'ch cnawd er mwyn y meirw, nac i ysgythru nodau arnoch eich hunain. Myfi yw'r ARGLWYDD.

29 “ ‘Paid â halogi dy ferch trwy beri iddi buteinio, rhag i'r wlad buteinio a chael ei llenwi ag anlladrwydd.

30 “ ‘Yr ydych i gadw fy Sabothau a pharchu fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD.

31 “ ‘Peidiwch â throi at ddewiniaid na cheisio swynwyr, oherwydd fe'ch halogir trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

32 “ ‘Yr wyt i godi i'r oedrannus a pharchu'r hen, ac fe ofni dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

33 “ ‘Pan fydd estron yn byw gyda thi yn dy wlad, nid wyt i'w gam-drin.

34 Y mae'r estron sy'n byw gyda thi i'w ystyried gennyt fel brodor o'ch plith; yr wyt i'w garu fel ti dy hun, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

35 “ ‘Nid ydych i dwyllo wrth fesur, boed hyd, pwysau neu nifer.

36 Yr ydych i ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, effa gywir a hin gywir. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch dygodd allan o wlad yr Aifft.

37 “ ‘Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27