13 Bwytewch ef mewn lle sanctaidd, gan mai dyna dy gyfran di a chyfran dy feibion o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, oherwydd fel hyn y gorchmynnais.
14 Yr wyt ti, dy feibion a'th ferched i fwyta brest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad mewn lle dihalog, oherwydd fe'u rhoddwyd i ti a'th blant yn gyfran o heddoffrymau pobl Israel.
15 Deuer â chlun y cyfraniad a brest yr offrwm cyhwfan, gyda'r rhannau bras o'r offrymau trwy dân, i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan. Bydd hyn yn gyfran reolaidd i ti a'th blant, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”
16 Pan ymholodd Moses am fwch yr aberth dros bechod, cafodd ei fod wedi ei losgi; a bu'n ddig iawn wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd i Aaron. Gofynnodd,
17 “Pam na fu ichwi fwyta'r aberth dros bechod yng nghyffiniau'r cysegr, gan ei fod yn gwbl sanctaidd ac iddo gael ei roi i chwi i ddwyn camwedd y gynulleidfa trwy wneud cymod drostynt gerbron yr ARGLWYDD?
18 Wele, ni ddygwyd ei waed i mewn i'r cysegr mewnol; yn sicr dylech fod wedi bwyta'r bwch yn y cysegr, fel y gorchmynnais.”
19 Dywedodd Aaron wrth Moses, “Y maent heddiw wedi cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD eu haberth dros bechod a'u poethoffrwm, ac y mae'r fath bethau wedi digwydd i mi! A fyddai'n dderbyniol gan yr ARGLWYDD pe bawn wedi bwyta'r aberth dros bechod heddiw?”