1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt,
2 “Dywedwch wrth bobl Israel, ‘O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta:
3 unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw.
4 Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
5 Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.