10 Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi.
11 Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff.
12 Y mae unrhyw beth yn y dŵr sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi.
13 “ ‘Dyma'r adar sydd yn ffiaidd ichwi, ac na chewch eu bwyta am eu bod yn ffiaidd: yr eryr, y fwltur, eryr y môr,
14 y barcud, unrhyw fath o gudyll,
15 unrhyw fath o frân,
16 yr estrys, y frân nos, yr wylan, ac unrhyw fath o hebog,