33 Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr.
34 Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd â dŵr o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan.
35 Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan.
36 Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni dŵr yn lân; y peth sy'n cyffwrdd â'u cyrff sy'n aflan.
37 Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n lân;
38 ond os bydd dŵr ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi.
39 “ ‘Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gorff yn aflan hyd yr hwyr;