43 Peidiwch â'ch gwneud eich hunain yn ffiaidd trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo; a pheidiwch â'ch halogi eich hunain trwyddynt na'ch cael yn aflan o'u plegid.
44 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. Peidiwch â'ch halogi eich hunain trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo ar y ddaear.
45 Myfi yw'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft i fod yn Dduw ichwi; byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi.
46 “ ‘Dyma'r ddeddf ynglŷn â'r anifeiliaid, yr adar, y creaduriaid byw sy'n llusgo trwy'r dyfroedd a'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear,
47 er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng y creaduriaid byw y gellir eu bwyta a'r rhai na ellir eu bwyta.’ ”