5 Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
6 Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi.
7 Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi.
8 Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd â'u cyrff; y maent yn aflan ichwi.
9 “ ‘O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nŵr y môr neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw.
10 Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi.
11 Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff.