1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
2 “Pan fydd gan unrhyw un chwydd, brech neu smotyn ar ei groen a allai fod yn ddolur heintus ar y croen, dylid dod ag ef at Aaron yr offeiriad, neu at un o'i feibion, yr offeiriaid.
3 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r dolur ar ei groen, ac os bydd y blew yn y dolur wedi troi'n wyn, a'r dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae'n ddolur heintus; wedi iddo ei archwilio, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan.
4 Os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ond heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
5 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os gwêl yr offeiriad fod y dolur wedi aros yr un fath a heb ledu ar y croen, bydd yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod arall.