15 Pan fydd yr offeiriad yn gweld cig noeth, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae cig noeth yn aflan, gan ei fod yn ddolur heintus.
16 Os bydd cig noeth yn newid ac yn troi'n wyn, dylai'r claf fynd at yr offeiriad.
17 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn lân; yna bydd yn lân.
18 “Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella,
19 a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad.
20 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw.
21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.