17 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn cyhoeddi'r claf yn lân; yna bydd yn lân.
18 “Pan fydd gan rywun gornwyd ar ei groen, a hwnnw'n gwella,
19 a chwydd gwyn neu smotyn cochwyn yn dod yn lle'r cornwyd, dylai ei ddangos ei hun i'r offeiriad.
20 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, a'r blew ynddo wedi troi'n wyn, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; dolur heintus wedi codi yn lle'r cornwyd ydyw.
21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn ynddo, a heb fod yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
22 Os bydd yn lledu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n heintus.
23 Ond os bydd y smotyn yn aros yr un fath a heb ledu, craith y cornwyd ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.