23 Ond os bydd y smotyn yn aros yr un fath a heb ledu, craith y cornwyd ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
24 “Pan fydd gan rywun losg ar ei groen, a smotyn cochwyn neu wyn yng nghig noeth y llosg,
25 bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y blew ynddo wedi troi'n wyn, a'r llosg yn ymddangos yn ddyfnach na'r croen, y mae dolur heintus wedi torri allan yn y llosg. Bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
26 Ond os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a'i gael heb flew gwyn yn y smotyn, a hwnnw heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen ac wedi gwywo, bydd yr offeiriad yn cadw'r claf o'r neilltu am saith diwrnod.
27 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd wedi lledu ar y croen bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
28 Ond os bydd y smotyn wedi aros yr un fath, a heb ledu ar y croen ac wedi gwywo, chwydd o'r llosg ydyw, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân; craith y llosg ydyw.
29 “Pan fydd gan ŵr neu wraig ddolur ar y pen neu'r wyneb, bydd yr offeiriad yn ei archwilio,