37 Os gwêl yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.
38 “Pan fydd gan ŵr neu wraig smotiau gwyn ar y croen,
39 bydd yr offeiriad yn eu harchwilio, ac os bydd y smotiau yn wyn gwelw, brech wedi torri allan ar y croen ydynt; y mae'r claf yn lân.
40 “Pan fydd dyn wedi colli gwallt ei ben ac yn foel, y mae'n lân.
41 Os bydd wedi colli ei wallt oddi ar ei dalcen, a'i dalcen yn foel, y mae'n lân.
42 Ond os bydd ganddo ddolur cochwyn ar ei ben moel neu ei dalcen, y mae dolur heintus yn torri allan ar ei ben neu ei dalcen.
43 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur chwyddedig ar ei ben neu ei dalcen yn gochwyn, fel y bydd dolur heintus yn ymddangos ar y croen,