45 “Y mae'r sawl sy'n heintus o'r dolur hwn i wisgo dillad wedi eu rhwygo, gadael ei wallt yn rhydd, gorchuddio'i wefus uchaf a gweiddi, ‘Aflan, aflan!’
46 Y mae'n aflan cyhyd ag y bydd y dolur arno; y mae i fyw ar ei ben ei hun, a hynny y tu allan i'r gwersyll.
47 “Os bydd haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn, boed o wlân neu o liain,
48 yn ystof neu'n anwe o wlân neu o liain, neu'n lledr neu'n ddeunydd wedi ei wneud o ledr,
49 a bod yr haint yn ymddangos yn wyrdd neu'n goch yn y dilledyn neu'r lledr, mewn ystof neu anwe, neu unrhyw beth a wnaed o ledr, y mae'n heintus oddi wrth ddolur, a dylid ei ddangos i'r offeiriad.
50 Bydd yr offeiriad yn archwilio'r haint, ac yn gosod y peth y mae'r haint ynddo o'r neilltu am saith diwrnod.
51 Ar y seithfed dydd bydd yn ei archwilio, ac os bydd yr haint wedi lledu yn y dilledyn, yn yr ystof neu yn yr anwe, neu yn y lledr, i ba beth bynnag y defnyddir ef, y mae'n haint dinistriol; y mae'n aflan.