55 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar ôl ei olchi, ac os na fydd yr haint wedi newid ei liw, hyd yn oed os na fydd wedi lledu, y mae'n aflan; bydd yn ei losgi yn y tân, boed y smotyn heintus y naill du neu'r llall.
56 Os bydd yr offeiriad yn ei archwilio a chael bod yr haint wedi gwelwi ar ôl ei olchi, bydd yn torri'r rhan honno allan o'r dilledyn, y lledr, yr ystof neu'r anwe.
57 Os bydd yn ailymddangos yn y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y mae'n lledu, a rhaid llosgi yn y tân beth bynnag y mae'r haint ynddo.
58 Am y dilledyn, yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, y ciliodd yr haint ohono ar ôl ei olchi, rhaid ei olchi eilwaith, a bydd yn lân.”
59 Dyma'r ddeddf ynglŷn â haint oddi wrth ddolur mewn dilledyn o wlân neu liain, yn yr ystof neu'r anwe, neu unrhyw beth o ledr, er mwyn penderfynu a ydynt yn lân neu'n aflan.