8 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y frech wedi lledu ar y croen, bydd yn ei gyhoeddi'n aflan; y mae'n ddolur heintus.
9 “Pan fydd gan unrhyw un ddolur heintus, dylid dod ag ef at yr offeiriad.
10 Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd chwydd gwyn yn y croen a hwnnw wedi troi'r blew yn wyn, ac os bydd cig noeth yn y chwydd,
11 y mae'n hen ddolur yn y croen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n aflan; ond ni fydd yn ei gadw o'r neilltu, gan ei fod eisoes yn aflan.
12 Os bydd y dolur yn torri allan dros y croen, a chyn belled ag y gwêl yr offeiriad yn gorchuddio'r claf o'i ben i'w draed,
13 bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os bydd y dolur wedi gorchuddio'i holl gnawd, bydd yn ei gyhoeddi'n lân; oherwydd i'r cyfan ohono droi'n wyn, bydd yn lân.
14 Ond pa bryd bynnag yr ymddengys cig noeth arno, bydd yn aflan.