1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,
2 “Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'r heintus ar ddydd ei lanhau. Dyger ef at yr offeiriad,
3 a bydd yr offeiriad yn mynd y tu allan i'r gwersyll ac yn ei archwilio. Os bydd wedi gwella o'r haint,
4 bydd yr offeiriad yn gorchymyn dod â dau aderyn glân yn fyw, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop ar ran yr un a lanheir.
5 Yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd.
6 Wedyn bydd yn cymryd yr aderyn byw ac yn ei drochi ef, ynghyd â'r pren cedrwydd, yr edau ysgarlad a'r isop, yng ngwaed yr aderyn a laddwyd uwchben y dŵr croyw,
7 ac yn ei daenellu seithwaith dros yr un a lanheir o'r haint. Yna bydd yn ei gyhoeddi'n lân ac yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd.