12 Bydd yr offeiriad yn cymryd un o'r ŵyn ac yn ei gyflwyno, ynghyd â'r log o olew, yn offrwm dros gamwedd ac yn ei chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
13 Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd.
14 Bydd yr offeiriad yn cymryd o waed yr offrwm dros gamwedd a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
15 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith,
16 yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
17 Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.
18 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.