15 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith,
16 yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
17 Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.
18 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
19 Yna bydd yr offeiriad yn offrymu'r aberth dros bechod ac yn gwneud cymod dros yr un a lanheir o'i aflendid. Ar ôl hynny bydd yn lladd y poethoffrwm,
20 ac yn ei gyflwyno ar yr allor gyda'r bwydoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, a bydd yn lân.
21 “Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,