20 ac yn ei gyflwyno ar yr allor gyda'r bwydoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, a bydd yn lân.
21 “Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,
22 a hefyd ddwy durtur neu ddau gyw colomen, fel y gall ei fforddio, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
23 Ar yr wythfed dydd, er mwyn ei lanhau, y mae i ddod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.
24 Bydd yr offeiriad yn cymryd oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log o olew, ac yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
25 Bydd yn lladd oen yr offrwm dros gamwedd ac yn cymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
26 Bydd yr offeiriad yn tywallt peth o'r olew ar gledr ei law chwith,