28 Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle â gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, i wneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
30 Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio,
31 y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir.”
32 Dyma'r gyfraith ynglŷn â'r sawl sydd â chlefyd heintus arno ac na all fforddio'r offrymau ar gyfer ei lanhau.
33 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
34 “Pan ddewch i mewn i wlad Canaan, a roddaf yn eiddo ichwi, a minnau'n rhoi malltod heintus mewn tŷ yn y wlad honno,