30 Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio,
31 y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir.”
32 Dyma'r gyfraith ynglŷn â'r sawl sydd â chlefyd heintus arno ac na all fforddio'r offrymau ar gyfer ei lanhau.
33 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud,
34 “Pan ddewch i mewn i wlad Canaan, a roddaf yn eiddo ichwi, a minnau'n rhoi malltod heintus mewn tŷ yn y wlad honno,
35 dylai perchennog y tŷ fynd at yr offeiriad a dweud wrtho fod rhywbeth tebyg i falltod wedi ymddangos yn y tŷ.
36 Bydd yr offeiriad yn gorchymyn gwagio'r tŷ cyn iddo ef fynd i mewn i archwilio'r malltod, rhag i bopeth sydd yn y tŷ gael ei gyhoeddi'n aflan; wedyn bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i archwilio'r tŷ.