39 Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ,
40 bydd yr offeiriad yn gorchymyn tynnu allan y meini y mae'r malltod ynddynt, a'u lluchio i le aflan y tu allan i'r ddinas,
41 a hefyd crafu muriau'r tŷ oddi mewn, a lluchio'r plastr a dynnir i le aflan y tu allan i'r ddinas.
42 Yna byddant yn cymryd meini eraill ac yn eu rhoi yn lle'r rhai a dynnwyd, a hefyd plastr arall a phlastro'r tŷ.
43 “Os bydd y malltod yn torri allan eilwaith yn y tŷ ar ôl tynnu allan y meini a chrafu'r muriau a phlastro,
44 bydd yr offeiriad yn dod i'w archwilio, ac os bydd y malltod wedi lledu yn y tŷ, y mae'n falltod dinistriol; y mae'r tŷ yn aflan.
45 Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas.