45 Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas.
46 Bydd unrhyw un sy'n mynd i'r tŷ tra bydd wedi ei gau yn aflan hyd yr hwyr.
47 Y mae unrhyw un sy'n cysgu neu'n bwyta yn y tŷ i olchi ei ddillad.
48 “Os bydd yr offeiriad yn dod i archwilio, a'r malltod heb ledu ar ôl plastro'r tŷ, bydd yn cyhoeddi'r tŷ yn lân oherwydd i'r malltod gilio.
49 I buro'r tŷ bydd yn cymryd dau aderyn, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop.
50 Bydd yn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd,
51 ac yna'n cymryd y pren cedrwydd, yr isop, yr edau ysgarlad a'r aderyn byw, ac yn eu trochi yng ngwaed yr aderyn a laddwyd ac yn y dŵr croyw, ac yn taenellu'r tŷ seithwaith.