4 a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w gyflwyno'n rhodd i'r ARGLWYDD o flaen y tabernacl, y mae hwnnw yn cael ei ystyried yn euog o waed; y mae hwnnw wedi tywallt gwaed, ac y mae i'w dorri ymaith o blith ei bobl.
5 Y mae hyn er mwyn i bobl Israel ddod â'r aberthau a offrymant yn awr yn y meysydd agored, a'u cyflwyno i'r ARGLWYDD trwy'r offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod; y maent i'w haberthu yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.
6 Bydd yr offeiriad yn lluchio'r gwaed ar allor yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod, ac yn llosgi'r braster yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
7 Nid ydynt i offrymu eu haberthau i'r gafr-ddelwau y buont yn puteinio ar eu holau. Y mae hyn yn ddeddf dragwyddol iddynt dros y cenedlaethau.’
8 “Dywed wrthynt, ‘Bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, a fydd yn offrymu poethoffrwm neu aberth,
9 a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w aberthu i'r ARGLWYDD, y mae hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.
10 “ ‘Os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.