1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
3 Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd â chwi. Peidiwch â dilyn eu harferion.
4 Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.