22 “ ‘Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
23 “ ‘Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
24 “ ‘Peidiwch â'ch halogi eich hunain â'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain.
25 Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.
26 Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch â gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;
27 oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.
28 Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.