13 Yr wyt i halltu â halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio â chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwydoffrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.
14 “ ‘Os byddi'n dod â bwydoffrwm o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD, dylai fod yn fwydoffrwm o dywysennau o rawn newydd wedi eu gwasgu a'u crasu yn y tân.
15 Rho olew a thus drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.
16 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r gyfran goffa o'r grawn ac o'r olew, ynghyd â'r holl thus, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.