9 Bydd ef yn cymryd o'r bwydoffrwm y gyfran goffa ac yn ei llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10 Bydd gweddill y bwydoffrwm yn eiddo i Aaron a'i feibion; bydd yn gyfran gwbl sanctaidd o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD.
11 “ ‘Ni wneir â lefain unrhyw fwydoffrwm a ddygwch i'r ARGLWYDD, oherwydd nid ydych i losgi unrhyw furum na mêl yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
12 Gallwch eu cyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm blaenffrwyth, ond nid ydych i'w hoffrymu ar yr allor yn arogl peraidd.
13 Yr wyt i halltu â halen dy holl fwydoffrymau, a pheidio â chadw halen cyfamod dy Dduw o'th fwydoffrymau; yr wyt i roi halen ar dy holl offrymau.
14 “ ‘Os byddi'n dod â bwydoffrwm o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD, dylai fod yn fwydoffrwm o dywysennau o rawn newydd wedi eu gwasgu a'u crasu yn y tân.
15 Rho olew a thus drosto; dyma fydd y bwydoffrwm.