16 Os bydd gwraig yn dynesu at unrhyw anifail i'w rhoi ei hun iddo, y mae'r wraig a'r anifail i'w lladd; y maent i'w rhoi i farwolaeth ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
17 Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol â hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngŵydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.
18 Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.
19 Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.
20 Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.
21 Os bydd dyn yn priodi gwraig ei frawd, y mae hynny'n aflan; amharchodd ei frawd, a byddant yn ddi-blant.
22 “ ‘Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau ac i'w gwneud, rhag i'r wlad, lle'r wyf yn mynd â chwi i fyw, eich chwydu allan.