18 Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.
19 Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.
20 Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.
21 Os bydd dyn yn priodi gwraig ei frawd, y mae hynny'n aflan; amharchodd ei frawd, a byddant yn ddi-blant.
22 “ ‘Yr ydych i gadw fy holl ddeddfau a'm holl gyfreithiau ac i'w gwneud, rhag i'r wlad, lle'r wyf yn mynd â chwi i fyw, eich chwydu allan.
23 Nid ydych i ddilyn arferion y cenhedloedd yr wyf yn eu hanfon allan o'ch blaenau; oherwydd iddynt hwy wneud yr holl bethau hyn, ffieiddiais hwy.
24 Ond dywedais wrthych chwi, “Byddwch yn etifeddu eu tir; byddaf fi yn ei roi ichwi'n etifeddiaeth, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.” Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch gosododd chwi ar wahân i'r bobloedd.