7 Ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
8 Yr ydych i gadw fy neddfau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eich sancteiddio.
9 “ ‘Os bydd unrhyw un yn melltithio ei dad neu ei fam, y mae i'w roi i farwolaeth. Oherwydd iddo felltithio ei dad neu ei fam, y mae'n gyfrifol am ei waed ei hun.
10 “ ‘Os bydd unrhyw un yn godinebu gyda gwraig ei gymydog, y mae'r godinebwr a'r odinebwraig i'w rhoi i farwolaeth.
11 Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad, y mae wedi amharchu ei dad; y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
12 Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y mae'r ddau ohonynt i'w rhoi i farwolaeth; gwnaethant wyrni, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.
13 Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.