1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, ‘Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth,
2 ac eithrio ei deulu agosaf, megis ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd,
3 neu ei chwaer ddibriod, sy'n agos ato am nad oes ganddi ŵr.
4 Fel pennaeth ymysg ei dylwyth nid yw i'w halogi ei hun na'i wneud ei hun yn aflan.