14 Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,
15 rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.’ ”
16 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17 “Dywed wrth Aaron, ‘Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.
18 Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,
19 yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,
20 yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.