20 Os gofynnwch, “Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?”
21 fe drefnaf y fath fendith ar eich cyfer yn y chweched flwyddyn fel y rhoddir digon o gynnyrch ichwi am dair blynedd.
22 Pan fyddwch yn hau yn yr wythfed flwyddyn, byddwch yn bwyta o'r hen gnwd, ac yn parhau i fwyta ohono nes y daw cnwd yn y nawfed flwyddyn.
23 “ ‘Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi.
24 Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd.
25 Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd.
26 Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau,