24 Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd.
25 Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd.
26 Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau,
27 y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth.
28 Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
29 “ ‘Os bydd rhywun yn gwerthu tŷ annedd mewn dinas gaerog, caiff ei ryddhau o fewn blwyddyn lawn ar ôl ei werthu; o fewn yr amser hwnnw caiff ei ryddhau.
30 Os na fydd wedi ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn lawn, bydd y tŷ yn y ddinas gaerog yn eiddo parhaol i'r sawl a'i prynodd ac i'w ddisgynyddion; nid yw i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.