49 Gall ewythr neu nai neu unrhyw berthynas arall yn y llwyth ei ryddhau; neu os caiff lwyddiant, gall ei ryddhau ei hun.
50 Y mae ef a'i brynwr i gyfrif o'r flwyddyn y gwerthodd ei hun at flwyddyn y jwbili; bydd arian ei bryniant yn unol â'r hyn a delir i was cyflog dros y nifer hwn o flynyddoedd.
51 Os oes llawer o flynyddoedd ar ôl, rhaid iddo dalu am ei ryddhau gyfran uchel o'r arian a roddwyd amdano;
52 ond os ychydig sydd ar ôl hyd flwyddyn y jwbili, y mae i wneud y cyfrif ac i dalu yn ôl hynny am ei ryddhau.
53 Y mae i'w ystyried fel un wedi ei gyflogi'n flynyddol; nid ydych i adael i'w berchennog dra-awdurdodi drosto.
54 Hyd yn oed os na fydd wedi ei ryddhau trwy un o'r ffyrdd hyn, caiff ef a'i blant eu rhyddhau ym mlwyddyn y jwbili;
55 oherwydd gweision i mi yw pobl Israel, gweision a ddygais allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.