9 Yna ar y degfed dydd o'r seithfed mis pâr ganu'r utgorn ym mhob man; ar Ddydd y Cymod pâr ganu'r utgorn trwy dy holl wlad.
10 Cysegra'r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy'r wlad i'r holl drigolion; bydd hon yn flwyddyn jwbili ichwi, a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i'w dreftadaeth ac at ei dylwyth.
11 Bydd yr hanner canfed flwyddyn yn flwyddyn jwbili ichwi; peidiwch â hau, na medi'r hyn a dyfodd ohono'i hun, na chasglu oddi ar winwydd heb eu tocio.
12 Jwbili ydyw, ac y mae i fod yn sanctaidd ichwi; ond cewch fwyta'r cynnyrch a ddaw o'r tir.
13 “ ‘Yn y flwyddyn jwbili hon y mae pob un ohonoch i ddychwelyd i'w dreftadaeth.
14 Felly, pan fyddwch yn gwerthu neu'n prynu tir ymysg eich gilydd, peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd.
15 Yr ydych i brynu oddi wrth eich gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd oddi ar y jwbili, ac i werthu i'ch gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd sydd ar gyfer cynnyrch.