11 Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.
12 Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
13 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
14 “ ‘Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn,
15 ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod,
16 yna fe wnaf hyn â chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta.
17 Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich casáu yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid.