24 byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau.
25 Byddaf yn dod â'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn.
26 Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.
27 “ ‘Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
28 yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
29 Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched.
30 Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio.